Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mawrth 2023
Amser:
09.30 -
11.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13441
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Emma Watkins, Llywodraeth Cymru Sharon Bounds, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb ar 19 Ionawr - 6 Chwefror 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb ar 19 Ionawr - 6 Chwefror 2023
2.3 PTN 3 - Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru- 3 Chwefror 2023
2.4 PTN 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 7 Chwefror 2023
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 – 24 Ionawr 2023
2.6 PTN 6 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygiad Annibynnol o Dreth Trafodiadau Tir - Adroddiad - 15 Chwefror 2023
2.7 PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Craffu ar oblygiadau ariannol Biliau - 15 Chwefror 2023
2.8 PTN 8 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Sefydlog Cyllid Rhyngweinidogol (F:ISC) - 21 Chwefror 2023
2.9 PTN 9 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2021-22 – 24 Chwefror 2023
3 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Busnes y Llywodraeth; a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith.